
Yn darparu trydan cost-effeithiol, gwyrddach i gymunedau busnes
Infinite Renewables Group Ltd (IRGL)
Ehangu drwy ystadau diwydiannol o denant sylfaenol, gan gysylltu busnesau a’u helpu i wireddu eu amcanion carbon sero net
Mae’r prosiect Cynhyrchu, Storio, Defnyddio, Cyflenwi (GSCS) yn cynnig trydan cost-effeithiol a gwyrddach i gymunedau busnes yng Nghymru. Wedi’u datblygu a’u rheoli gan Infinite a’u hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a phartner ariannu Infinite Renewables Group, sef Albion Community Power, mae’r canolfannau’n cynnwys ystod o dechnolegau cynhyrchu integredig, adnewyddadwy a charbon isel.
Mae dau o’r chwech prosiect micro-grid mewn lleoliadau gweithgynhyrchu mawr – y ffatri batris GS Yuasa yng Nglynebwy a’r un yn yBathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi eu cwblhau – y ddau’n ddelfrydol ar gyfer datblygu ynni integredig a micro-gridiau.
Mae’r prosiect yn ymgorffori Fferm Solar 2MW ar dir cyfagos. Rhagwelir y bydd yn cynhyrchu 2.4GWh o ynni bob blwyddyn yn uniongyrchol i’r Bathdy Brenhinol. Gwynt, Gwres a Phŵer Cyfunedig sy’n barod am hydrogen a storio batris yw’r cymysgedd o dechnolegau a ddefnyddir. Yn ogystal â lleihau ei allyriadau, bydd y buddsoddiad yn lleihau costau ynni’r Bathdy.
Bydd y prosiect yn ymgorffori Fferm Solar 2MW ar dir cyfagos. Rhagwelir y bydd yn cynhyrchu 2.4GWh o ynni bob blwyddyn yn uniongyrchol i’r Bathdy Brenhinol. Gwynt, Gwres a Phŵer Cyfunedig sy’n barod am hydrogen a storio batris yw’r cymysgedd o dechnolegau a ddefnyddir.Yn ogystal â lleihau ei allyriadau, bydd y buddsoddiad yn lleihau costau ynni’r Bathdy.
Mae’r Ganolfan Ynni Leol yn ffatri GS Yuasa ar Ystâd Ddiwydiannol Rasa yng Nglynebwy hefyd yn defnyddio cymysgedd o dechnolegau. Mae’n gysylltiedig â chynllun storio ynni arloesol. Mae datrysiad unigryw ADEPT,sy’n defnyddio cynwysyddion yn unig,yn cyfuno’r defnydd o fatris asid plwm a lithiwm GS Yuasa i gynnig y gorau o ran effeithlonrwydd a hyblygrwydd wrth reoli pŵer ar draws micro-grid.
Mae gan y ddwy Ganolfan Ynni Leol y potensial i ehangu ac ateb galw’r defnydd cymunedol yn eu camau datblygu nesaf.
Yn cynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy a charbon isel,mae Canolfannau Ynni Lleol GSCS yn lleihau llwyth grid ac mae ganddynt ran bwysig wrth lwyddo i wireddu uchelgeisiau sero net y DU. Y micro-grid ynni adnewyddadwy lleol yw’r brif ffynhonnell bŵer, gyda llai o ddibyniaeth ar bŵer o’r grid cenedlaethol.
Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) wedi dyrannu £8.9miliwn mewn cyllid grant i IRGL adeiladu hyd at saith canolfan ynni leol yn Ne Cymru. Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru.
ENGLISHEin Safleoedd
Adeiladu systemau cynaliadwy, clyfar, carbon isel ledled y DU
GWYNT
Ynni gwynt yn Scoveston, Sir Benfro, Gorllewin Cymru. Cynhyrchu tua 1,600MWH bob blwyddyn
SOLAR Ff
System solar 1 MW ar doeon yn ffatri GS Yuasa yn Ystâd ddiwydiannol Rasa, Glyn Ebwy
BATRI
Cynllun storio ynni mewn cynhwysydd yn GS Yuasa, Glyn Ebwy