News Brief

20 February 2023

Infinite completes Wales’ first Local Energy Centre

Supporting Wales to become Net Zero

The renewable energy company Infinite is celebrating the completion of Wales’ first integrated Energy Centre at the Rassau industrial estate in south Wales. The commissioning of the EWT wind turbine on adjacent land is a remarkable accomplishment for Infinite who already has a 1MWh rooftop solar system and a battery management system at GS Yuasa’s factory. The wind turbine alone is expected to generate 2,000 MWh annually and is designed to be embedded into the power supply of local businesses.

The build began in 2021 and is part of the Generation Storage Consumption Supply project, funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government and Albion Capital and is one of six Local Energy Centres in south Wales.

Andrew Crossman, Infinite Director, said “We are incredibly proud to have built Wales’ first Local Energy Centre. The combination of wind turbines, solar photovoltaics and battery storage will provide reliable, cost efficient and greener power directly to the customer and will contribute to Wales’ ambition to become Net Zero.”

Group – Infinite Renewables

Briff Newyddion

Chwefror 20 2023

Infinite yn cwblhau Canolfan Ynni Leol gyntaf Cymru

Cefnogi Cymru i ddod yn Sero Net

Mae’r cwmni ynni adnewyddadwy Infinite yn dathlu cwblhau Canolfan Ynni Integredig gyntaf Cymru ar Ystâd ddiwydiannol Rasa yn ne Cymru. Mae comisiynu tyrbin gwynt EWT ar dir cyfagos yn gamp nodedig i Infinite sydd eisoes â system solar pen tŷ 1MWh a system rheoli batri yn ffatri GS Yuasa. Mae disgwyl i’r tyrbin gwynt yn unig gynhyrchu 2,000 MWh yn flynyddol ac mae wedi’i gynllunio i gael ei wreiddio i gyflenwad pŵer busnesau lleol.

Dechreuodd yr adeiladu yn 2021 ac mae’n rhan o brosiect Cynhyrchu Storio Defnyddio Cyflenwi a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac Albion Capital ac mae’n un o chwe Canolfan Ynni Leol yn ne Cymru.

Dywedodd Andrew Crossman, Cyfarwyddwr infinite, “Rydym yn hynod falch o fod wedi adeiladu Canolfan Ynni Leol gyntaf Cymru.  Bydd y cyfuniad o dyrbinau gwynt, ffotofolteg solar a storio batri yn darparu pŵer dibynadwy, cost effeithlon a gwyrddach yn uniongyrchol i’r cwsmer ac yn cyfrannu at uchelgais Cymru i fod yn Sero Net.”

Group – Infinite Renewables