Press Releases

22 June 2021

Infinite launches Wales’ first multi technology Energy Centre to supply power directly to the community

The innovative renewable energy company Infinite is launching its first Energy Centre at the Rassau industrial estate in south Wales. The combination of wind turbines, solar photovoltaics and battery storage will provide reliable, cost efficient and greener power directly to the customer.

Work at the site is moving on apace with the first phase of Infinite’s unique integrated energy centre – the installation of a 1MWh rooftop solar system at GS Yuasa’s factory, already completed. Approval has also been granted for the building of a wind turbine which will supply electricity directly to the site. The Energy Centre will be linked to an energy storage scheme with its ADEPT battery container bringing together the use of GS Yuasa’s lead acid and lithium batteries, thus offering optimum efficiency and flexibility when managing power across a micro-grid.

Andrew Crossman, Director, Infinite says: “The GSCS Energy Centre represents a step-change in the de-centralised distribution of low carbon and renewable energy. The Rassau scheme aims to share the benefits of multi technology generation within the immediate community, providing discounted renewable power and reducing the CO2 emissions in the area.”

Shaun Gardner, Managing Director, GS Yuasa Manufacturing UK Ltd added: “The project brings a number of benefits to our Ebbw Vale factory and the wider Rassau industrial estate. The unique combination of our lithium and lead-acid batteries, the latter of which are produced on site in South Wales, allows for the storage of greener energy, generated by either solar or wind, to be used at a later date.”

The centre is part of the Generation Storage Consumption Supply project (GSCS) and is one of up to seven local energy centre schemes in South and West Wales to be grant funded by The European Regional Development Fund (ERDF). Match funding of £5.5m has been provided by Infinite’s funding partner, Albion Community Power. The total CAPEX for the schemes is £14.4m with £8.9m provided by the ERDF.

Welsh Government Minister for Climate Change, Julie James said: “Climate Change is at the heart of our decision making and we are committed to accelerating the transition to a low carbon energy system in Wales. The GSCS Energy Centre, alongside the other EU funded local energy schemes, will play an important role in driving action towards our ambition for a more sustainable future for Wales, by providing the benefits of cost-effective, more reliable green energy to local businesses and communities across South and West Wales.”

Marco Yu, Investment Director, Albion Community Power, says: “Albion has over 20 years’ experience funding sustainable energy projects across the UK. We backed the Infinite team in the early stages of its growth and are thrilled to be part of its latest pioneering, multi-technology projects that are leading the way in helping local businesses to decarbonise and reduce energy cost while alleviating the electricity load of the electricity grid network.”

About Infinite:

Infinite was formed in 2010 as a specialist renewable energy developer to create merchant wind power schemes for commercial clients.  Since then, it has delivered multiple commercial turbine and large scale Solar PV schemes across the UK and is now pioneering multi-technology renewable energy centres for industry, to provide more secure, reliable and cost effective sustainable energy directly to industrial communities.

Datganiad i’r wasg

22 Mehefin 2021

INFINITE YN LANSIO CANOLFAN YNNI AMLDECHNOLEG GYNTAF CYMRU

I GYFLENWI PŴER YN UNIONGYRCHOL I’R GYMUNED

Mae’r cwmni ynni adnewyddadwy arloesol Infinite yn lansio ei ganolfan ynni gyntaf yn Ystâd Ddiwydiannol Rasa yn Ne Cymru.  Bydd y cyfuniad o dyrbinau gwynt, systemau solar ffotofoltäig a storio batris yn darparu pŵer dibynadwy, cost-effeithlon a gwyrddach yn uniongyrchol i’r cwsmer.  

Andrew Shaw o GE National ar y safle yn ffatri GS Yuasa yng Nglynebwy

Mae gwaith ar y safle’n mynd rhagddo’n chwim gyda’r cam cyntaf o ganolfan ynni integredig unigryw Infinite, sef gosod system solar pen tŷ 1MWh ar ffatri GS Yuasa, eisoes wedi’i gwblhau. Hefyd, mae cymeradwyaeth wedi’i rhoi ar gyfer adeiladu tyrbin gwynt a fydd yn cyflenwi trydan yn uniongyrchol i’r safle. Bydd y ganolfan ynni’n gysylltiedig â chynllun storio ynni gyda’i gynhwysydd batri ADEPT yn cyfuno’r defnydd o fatris asid plwm a lithiwm GS Yuasa, gan gynnig yr effeithlonrwydd a hyblygrwydd gorau wrth reoli pŵer ar draws micro-grid.

Meddai Andrew Crossman, Cyfarwyddwr, Infinite: “Mae’r Ganolfan Ynni GSCS yn cynrychioli newid sylweddol mewn perthynas â’r dosbarthiad datganoledig o ynni carbon isel ac adnewyddadwy. Nod cynllun Rasa yw rhannu manteision dull cynhyrchu amldechnoleg yn y gymuned gyfagos, gan ddarparu pŵer adnewyddadwy gostyngol a lleihau’r allyriadau CO2 yn yr ardal.”

Ychwanegodd Shaun Gardner, Rheolwr Gyfarwyddwr, GS Yuasa Manufacturing UK Ltd: “Mae’r prosiect yn dod â nifer o fanteision i’n ffatri yng Nglynebwy ac Ystâd Ddiwydiannol ehangach Rasa. Mae’r cyfuniad unigryw o’n batris lithiwm ac asid plwm, a chynhyrchir y batris asid plwm ar y safle yn Ne Cymru, yn galluogi storio ynni gwyrddach, wedi’i gynhyrchu gan yr haul neu’r gwynt, i’w ddefnyddio’n ddiweddarach.”

Mae’r ganolfan yn rhan o’r prosiect Cynhyrchu, Storio, Defnyddio, Cyflenwi (GSCS) ac yn un o hyd at saith cynllun canolfan ynni leol yn Ne a Gorllewin Cymru i’w hariannu trwy grant gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae arian cyfatebol gwerth £5.5m wedi’i ddarparu gan bartner cyllid Infinite, sef Albion Community Power.  Cyfanswm gwariant cyfalaf y cynlluniau yw £14.4m gyda Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn darparu £8.9m.

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae newid hinsawdd wrth wraidd ein penderfyniadau ac rydym wedi ymrwymo i gyflymu’r newid i system ynni carbon isel yng Nghymru. Bydd y Ganolfan Ynni GSCS, yn ogystal â chynlluniau ynni lleol eraill a ariennir gan yr UE â rôl bwysig wrth gymell camau gweithredu tuag at ein huchelgais ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru, trwy ddarparu manteision ynni cost-effeithiol, gwyrddach i fusnesau lleol a chymunedau ar draws De a Gorllewin Cymru.”

Meddai Marco Yu, Cyfarwyddwr Buddsoddi, Albion Community Power: “Mae gan Albion fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn ariannu prosiectau ynni cynaliadwy ar draws y DU. Gwnaethom gefnogi tîm Infinite yng nghamau cynnar ei dwf ac rydym wedi’n gwefreiddio bod yn rhan o’i brosiectau arloesol, amldechnoleg diweddaraf sy’n arwain y ffordd o ran helpu busnesau lleol i ddatgarboneiddio a lleihau costau ynni wrth liniaru llwyth trydan y grid trydan.”

Ynghylch Infinite:

Sefydlwyd Infinite yn 2010 fel datblygwr ynni adnewyddadwy i greu cynlluniau pŵer gwynt masnachol i gleientiaid masnachol.  Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau gwynt megis y ‘genhinen Bedr anferth’ yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn Ne Cymru – tyrbin gwynt 850kW yn cyflenwi hyd at 10 y cant o alw’r Bathdy Brenhinol.  Mae Infinite wedi tyfu o ddatblygu portffolio o dyrbinau gwynt i ddarparu sawl cynllun system solar ffotofoltäig preswyl a masnachol. Erbyn hyn, mae’n arloesi canolfannau ynni adnewyddadwy amldechnoleg ar gyfer diwydiant ar draws y DU.

Cyswllt y cyfryngau: Gaenor Howells                               

gaenor@gaenorhowells.com       www.infiniterenewables.com